Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi lansio pecyn gwybodaeth fel rhan o brosiect ehangach i fynd i’r afael ag eiddo gwag.
Nod y pecyn ‘Caerffili – Yn Dda i Ddim yn Wag’ yw darparu adnodd i berchnogion eiddo gwag a’u cyfeirio at yr ystod eang o gymorth sydd ar gael i’w helpu i sicrhau bod eiddo gwag yn cael eu defnyddio eto.
Ym mis Rhagfyr 2020, rhoddodd Cabinet y Cyngor y caniatâd i sefydlu tîm pwrpasol i ymdrin ag eiddo gwag yn y Fwrdeistref Sirol. Ers hynny, mae’r tîm wedi datblygu cynllun gweithredu ac wedi dechrau cyflawni hyn drwy adeiladu ar waith blaenorol y Cyngor wrth ymgysylltu â pherchnogion eiddo gwag a defnyddio’r eiddo gwag eto at ddibenion buddiol.
Mae hefyd gan y tîm bwerau i gymryd camau gorfodi mewn achosion lle mae eiddo preswyl yn achosi pryder sylweddol.
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Yn ogystal â bod yn wag ac yn hyll, mae eiddo gwag hirdymor hefyd yn gallu dod ag amrywiaeth o faterion eraill gyda nhw, gan gynnwys bod yn fagnet ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r tîm eisoes yn cyflawni canlyniadau rhagorol o ran defnyddio tai gwag eto ac, mewn rhai achosion, mae’r eiddo’n dod â manteision ychwanegol drwy eu defnyddio i ailgartrefu pobl leol a fyddai, fel arall, wedi canfod eu hunain yn ddigartref.
Mae’r pecyn gwybodaeth yn arf ychwanegol rydyn ni’n gobeithio y bydd yn helpu ymgysylltu â mwy o berchnogion eiddo gwag a’u gwneud nhw’n ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddyn nhw.”
I weld copi o’r pecyn ‘Caerffili – Yn Dda i Ddim yn Wag’, neu i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael, ewch i Caerphilly – Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Gallwch chi hefyd ofyn am gopi drwy gysylltu â’r Tîm Eiddo Gwag ar 01443 811378 neu e-bostio TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk.