Mae’r Awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddefnyddio eiddo gwag unwaith eto er budd y gymuned. Nid yw gadael eiddo gwag am flynyddoedd heb ddim cynlluniau i’w defnyddio unwaith eto yn opsiwn i chi mwyach.
Mae cost cael eiddo gwag yn cynyddu a bydd yr Awdurdod hwn yn mynd ati i dargedu tai a fu’n wag yn yr hirdymor ac sy’n cael eu hesgeuluso a’u hanwybyddu gan eu perchnogion.
Treth y Cyngor
Os yw eich eiddo yn wag a heb ddim dodrefn ynddo, caiff ei eithrio am y 6 mis cyntaf o’r dyddiad y daeth yn ddi-ddodrefn. Gallai’r dyddiad hwn fod cyn i chi gymryd drosodd yr eiddo, a fyddai’n golygu na fyddech chi ond yn cael rhan o’r cyfnod eithrio 6 mis hwnnw sy’n berthnasol i chi.
Ar ôl i’r amser hwn fynd heibio, mae eich eiddo wedyn yn syrthio o fewn y dosbarth anheddau rhagnodedig yn Adran 12, Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Mae hwn yn rhoi i’r Cyngor ddisgresiwn i ganiatáu disgownt ai peidio. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi penderfynu na fydd y dosbarth hwn o eiddo yn cael dim disgownt. Felly, bydd cost lawn yn daladwy.
Camau gorfodi
Yn ddieithriad, gall cartrefi gwag gael eu hesgeuluso a dadfeilio. Fe all eiddo y mae eu perchnogion yn eu hanwybyddu a’u hesgeuluso fod yn ddarostyngedig i nifer o ddewisiadau gorfodi sy’n mynnu bod perchnogion yn gweithredu i ddiogelu, atgyweirio, adnewyddu neu ddymchwel adeiladau sy’n peri problemau.
Ymysg y prif ddewisiadau gorfodi sydd ar gael i’r Cyngor y mae:
- Cadw eich eiddo gwag mewn cyflwr da: os yw eich eiddo neu’ch tŷ yn achosi niwsans neu’n cael effaith niweidiol ar y gymuned, mae gan y Cyngor amrywiaeth eang o wahanol bwerau i’ch gorfodi i wneud gwaith i roi sylw i’r pryderon. Os na wnewch CHI hynny, fe all yr Awdurdod wneud gwaith yn ddiofyn. Byddan nhw wedyn yn adennill y costau am wneud y gwaith gennych chi. Mae hyn yn cynnwys diogelu adeiladau rhag bod neb yn mynd i mewn iddyn nhw heb ganiatâd, gwaredu gwastraff, atal difrod gan blâu, trwsio nwyddau dŵr glaw diffygiol a phroblemau draenio, yn ogystal â gwelliannau i’r edrychiad allanol, a hyd yn oed ddymchwel adeiladau.
- Gwerthu drwy orfodaeth: os yw’r Cyngor yn gwneud gwaith yn ddiofyn drwy hysbysiadau a sy’n cael eu cyflwyno ar eich eiddo neu’ch tir, dan Adran 103 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925, mae gennym ni’r grym i werthu eich eiddo neu’ch tir er mwyn adennill y costau am y gwaith.
- Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag (EDMOs): os ydych chi’n amharod i ddefnyddio eich eiddo unwaith eto, gall y Cyngor wneud cais i gymryd rheolaeth dros yr eiddo. Mae EDMO yn caniatáu i ni wneud gwaith i godi’r eiddo i safon fel ei fod yn addas i fyw ynddo ac yna rhentu a rheoli eich eiddo am hyd at 7 mlynedd. Bydd unrhyw gostau am y gwaith i ddod â’r eiddo i’r safon ofynnol yn cael eu hadennill o’r incwm rhent yn ystod yr amser hwn.
- Gorchmynion Prynu Gorfodol (CPOs): os ydym ni’n methu â’ch annog i ddefnyddio eich eiddo unwaith eto neu os ydych chi’n methu â chydymffurfio â hysbysiadau statudol i wella eich eiddo, fe allai’r Cyngor ystyried CPO. Os bydd dadl ddigon cryf a bod hynny er budd y cyhoedd, bydd CPO yn caniatáu i ni gaffael eich eiddo neu’ch tir.
Peidiwch â’i anwybyddu, cymerwch reolaeth o’ch eiddo gwag heddiw.
Cysylltwch â’r adran sector tai preifat i drafod eich bwriad ar gyfer yr eiddo ar 01443 811378 neu e-bostio TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk