Mae perchnogion eiddo gwag sydd eisiau dod â’u heiddo i safon fyw dderbyniol yn gallu elwa o ddewis eang o gymorth ariannol gan gynnwys grantiau a benthyciadau di-log. Isod, mae trosolwg byr ar y dewisiadau sydd ar gael.
Benthyciadau di-log yw’r rhain, ac maen nhw ar gael i landlordiaid a darpar landlordiaid i’w helpu i ddefnyddio eiddo gwag unwaith eto neu ar gyfer gwneud gwaith cymwys i gartrefi rhent preifat.
Mae landlordiaid preifat sydd ag eiddo ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn gallu ymgeisio.
Mae benthyciadau o rhwng £1,000 a £35,000 ar gael i bob eiddo, ar gyfer hyd at 10 eiddo i uchafswm o £250,000 i bob ymgeisydd. Sylwer: bydd ffioedd gweinyddol yn daladwy.
Mae telerau ac amodau yn weithredol.
I gael rhagor o wybodaeth am y Benthyciad i Landlordiaid, cysylltwch â’r adran tai sector preifat ar 01443 811378 neu e-bostio TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk
Mae benthyciadau di-log ar gael i berchnogion-feddianwyr a darpar berchnogion-feddianwyr i wneud gwelliannau hanfodol i’r eiddo / neu waith i wneud cartrefi yn saff, yn gynnes ac yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys perchnogion eiddo gwag sydd eisiau byw yn yr eiddo eu hunain ar ôl cwblhau’r gwaith.
Mae’r benthyciad yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth eang o waith cymwys. Er enghraifft:
Mae perchnogion cartrefi neu ddarpar berchnogion cartrefi sy’n berchen ar eiddo gwag yn y Fwrdeistref yn gallu bod yn gymwys i ymgeisio am fenthyciad i berchnogion-feddianwyr cyn belled â’u bod yn byw yn yr eiddo ar ôl cwblhau’r gwaith angenrheidiol dros dymor y benthyciad.
Mae benthyciadau ar gael o rhwng £1,000 a £35,000, gyda chyfnod benthyciad o ddim mwy na 10 mlynedd.
Ni chaiff y cais am fenthyciad gwella cartrefi ond ei brosesu os bydd asesiad yr Undeb Credyd yn tybio ei fod yn fforddiadwy. Does dim modd i ni herio na gwrthdroi unrhyw benderfyniad a wna’r Undeb Credyd.
Caiff pob cais am y benthyciadau i berchnogion-feddianwyr ei gyfeirio at yr undeb credyd i’w hasesu. Bydd ffioedd gweinyddol yn daladwy. Mae telerau ac amodau yn weithredol.
I gael rhagor o wybodaeth am y Benthyciad i Berchnogionfeddianwyr, cysylltwch â’r adran tai sector preifat ar 01443 811378 neu e-bostio TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk
Fe allai Prynwyr Tro Cyntaf fod yn gymwys am Grant Atgyweirio Cartrefi Cymorth ariannol graddfa fechan yw hwn i helpu i ariannu gwaith atgyweirio hanfodol y mae’r Cyngor yn ystyried ei fod yn angenrheidiol. Mae’r grant hwn, fel arfer, yn talu am waith fel adnewyddu drysau a ffenestri, trwsio toeau ac adnewyddu systemau gwresogi.
Ar gyfer cartrefi gwag, mae’r grantiau hyn yn gyfyngedig i:
Bydd grant o 100% yn cael ei roi hyd at uchafswm o £10,000.
Bydd yn rhaid meddiannu’r eiddo am 10 mlynedd ar ôl cael y grant.
I gael rhagor o wybodaeth am y Benthyciad Atgyweirio Cartrefi, cysylltwch â’r adran tai sector preifat ar 01443 811378 neu e-bostio TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk
Caiff grantiau addasu eu cynnig ar ddisgresiwn y Cyngor ac maen nhw ar gael i berchnogion eiddo gwag i ddarparu llety hunangynhwysol drwy addasu:
Nid yw grantiau addasu ond ar gael os yw’r Cyngor yn ystyried bod y cynnig yn briodol i fodloni anghenion tai ac anghenion cyffredinol ardal.
Gyda’r grantiau hyn, rhaid i’r landlord gyfrannu 50%, a bydd uchafswm o £15,000 o grant yn cael ei gynnig ar gyfer pob uned lety sy’n cael ei darparu.
Ar gyfer perchnogion-feddianwyr, mae’r cyfraniadau’n seiliedig ar brawf modd ac mae uchafswm y grant ar gyfer pob uned lety sy’n cael ei darparu yn £15,000.
Rhaid i’r holl ymgeiswyr gydymffurfio ag amodau’r grant am ddeng mlynedd ar ôl cwblhau’r gwaith y mae’r grant ar ei gyfer.
I gael rhagor o wybodaeth am y Grantiau Addasu, cysylltwch â’r adran tai sector preifat ar 01443 811378 neu e-bostio TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk
Mae gwaith adnewyddu ac addasu ar eiddo preswyl a fu’n wag am o leiaf 2 flynedd (10 mlynedd os nad yw’n eiddo preswyl) yn gymwys i gael cyfradd TAW is o 5%. Mae’r gyfradd hon yn berthnasol i gostau llafur a deunyddiau ar gyfer gwaith atgyweirio, addasu, adeiladu garejys cysylltiedig, a gwaith tirlunio caled. Fe allai gweithio ag adeiladwr sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW leihau’n sylweddol y gost o ddefnyddio eich eiddo gwag unwaith eto.
Fe all datblygwr neu berchennog cartref hawlio’n ôl yr holl TAW sy’n cael ei chodi ar y gwaith o adnewyddu adeilad a fu’n wag am 10 mlynedd neu ragor ar ôl gwerthu’r annedd.
Caiff cyfraddau TAW is eu codi hefyd gyda nifer o wahanol fathau o waith adeiladu, megis gosod mesurau effeithlonrwydd ynni neu arbed ynni, addasu adeilad ar gyfer unigolyn anabl, neu waith i addasu adeilad amhreswyl yn gartref. Fe allai’r disgowntiau hyn fod ar gael ar gyfer gwaith sy’n cael ei wneud er mwyn gallu defnyddio eiddo gwag unwaith eto.
Mae rhagor o wybodaeth am y gyfradd is hon i’w chael yn Adran 8 o Hysbysiad Cyhoeddus 708 – TAW: Adeiladau ac Adeiladu, sydd ar gael gan y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol ar 0845 0109 000 neu gan Dollau a Chyllid EM yn www.gov.uk/business-tax/vat.
Os ydych chi’n gymwys, byddwch chi’n talu cyfradd TAW is (5%) pan mae cynhyrchion arbed ynni penodol yn cael eu gosod yn eich cartref. Bydd eich cyflenwr yn codi’r gyfradd is arnoch chi am y gwaith gosod ac am unrhyw waith ychwanegol cysylltiedig.
Nid yw pob cynnyrch na gwaith gosod yn gymwys am y gyfradd is, ac ni chewch chi eu prynu na’u gosod eich hun.
I fod yn gymwys am y gyfradd is, rhaid i chi fod dros 60 oed neu’n cael un neu ragor o’r canlynol:
Byddwch chi hefyd yn gymwys i gael y gyfradd is ar y cynhyrchion os nad yw cyfanswm eu cost (heb gynnwys TAW) dros 60% o gost y gwaith o osod y cynhyrchion (heb gynnwys TAW).
Os yw eich cynhyrchion yn costio mwy na 60% o’r gwaith gosod, ni fydd gennych chi ond yr hawl i’r gyfradd is ar y gwaith gosod. Eich cyflenwr fydd yn gyfrifol am godi’r gyfradd TAW gywir arnoch chi.
Esiampl: Caiff £400 (heb gynnwys TAW) ei godi ar y gosodwr am ddeunydd inswleiddio ac mae’n codi £1,000 (heb gynnwys TAW) arnoch chi am y gwaith gosod. Gan nad yw gwerth y deunyddiau (y deunydd inswleiddio) ond yn 40% o gyfanswm y gost i chi am y deunyddiau a’r gwaith gosod, gall y gosodwr godi’r gyfradd TAW is o 5% ar gyfanswm y gost gan mai £50 yw 5% o £1,000.
Esiampl: Caiff £3,500 (heb gynnwys TAW) ei godi ar y gosodwr am baneli solar a batri ac mae’n codi £5,385 (heb gynnwys TAW) arnoch chi am y gwaith gosod. Gan fod gwerth y deunyddiau (y paneli solar a’r batri) yn 65% o gyfanswm y gost i chi am y deunyddiau a’r gwaith gosod, mae dros 60% o’r trothwy. Mae hyn yn golygu y bydd angen i’r gosodwr godi TAW am y paneli solar a’r batri ar y gyfradd safonol a bydd y gwaith gosod yn gymwys am y gyfradd is o 5%.
Mae rhagor o wybodaeth am y gyfradd is hon i’w chael yn Adran 8 o Hysbysiad Cyhoeddus 708 – TAW: Adeiladau ac Adeiladu, sydd ar gael gan y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol ar 0845 0109 000 neu gan Dollau a Chyllid EM yn www.gov.uk/business-tax/vat.
Mae’n bosibl y bydd ar waith adnewyddu penodol angen Caniatâd Cynllunio neu Gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu. Mae’n bwysig i berchnogion eiddo gwag gael gwybodaeth am beth sy’n ofynnol cyn dechrau unrhyw waith.
I gael rhagor o wybodaeth ac i ganfod a oes angen caniatâd cynllunio a/neu Gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu, ewch i www.planningportal.co.uk/cymru/
I wneud cais neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Adran Rheoli Cynllunio ac Adeiladu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn www.caerphilly. gov.uk/services/planning-and-building-control?lang=cy-gb
Mae ‘adeilad rhestredig’ yn adeilad, yn wrthrych neu’n adeiladwaith sy’n cael ei ystyried yn ased o ddiddordeb cenedlaethol, lleol, hanesyddol, neu bensaernïol. Caiff adeiladau eu rhestru ar dair lefel wahanol: Gradd I, Gradd II* a Gradd II. Caiff pob adeilad rhestredig ei ystyried yr un fath a byddan nhw’n cael eu trin yn gyfartal yn y system gynllunio. Mae rhestru adeilad yn rhoi iddo amddiffyniad cyfreithiol, fel y gellir ei warchod i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau. Gall gwaith adeiladu ar adeilad rhestredig heb gydsyniad ymlaen llaw fod yn niweidiol i’r adeilad a gall arwain at erlyniad.
Os yw eich tŷ yn adeilad rhestredig, yn ogystal â chaniatâd cynllunio a chymeradwyaeth rheoli adeiladu, bydd arnoch chi angen gwneud cais am gydsyniad adeilad rhestredig. Mae arnoch chi angen cydsyniad adeilad rhestredig i addasu, ymestyn neu ddymchwel yn llwyr neu’n rhannol adeilad rhestredig a/neu wrthrychau neu adeiladwaith ac adeiladau eraill ar dir adeilad rhestredig sydd wedi cael ei adeiladu cyn 1af Gorffennaf 1948. Mae hefyd yn berthnasol i waith sy’n cael ei wneud i du mewn adeilad.
Mae angen cydsyniad adeilad rhestredig er enghraifft i:
Mae’n drosedd gwneud gwaith i unrhyw adeiladau rhestredig heb gydsyniad hyd yn oed os nad ydych chi’n gwybod bod yr adeilad yn rhestredig. Gallwch chi gael eich cosbi am wneud gwaith heb ganiatâd drwy ddirwy neu ddedfryd carchar a gallwn ni fynnu eich bod yn adfer yr adeilad yn ôl i fel yr oedd.
Mae’r Heritage Funding Directory yn arweiniad rhad ac am ddim i gymorth ariannol i unrhyw un sy’n cynnal prosiectau treftadaeth sy’n gysylltiedig â’r Deyrnas Unedig. Mae hwn yn fan cychwyn defnyddiol i chwilio am ffynonellau cyllid yn y sector a dylech chi fynd i wefan y cyllidwr yn uniongyrchol i ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf.
I gael manylion llawn am yr amrywiol grantiau sydd ar gael, ewch i www.heritagefundingdirectoryuk.org
I gael rhagor o wybodaeth am Adeiladau Rhestredig, Cydsyniad Adeilad Rhestredig neu Gyllid Treftadaeth, cysylltwch â’r Swyddog Creu Lleoedd a Chadwraeth Adeiladau ar 07850 916859 neu e-bostio mcglyd@caerphilly.gov.uk