Yn ôl i'r brig

Gwerthu eich eiddo gwag

Un o’r ffyrdd cyflymaf a hawsaf o ddelio .’ch eiddo gwag yw gwerthu’r eiddo. Mae’r farchnad dai yn gryf iawn ar hyn o bryd ac mae hyn yn ddewis perffaith i berchnogion nad oes ganddyn nhw ddim diddordeb mewn defnyddio’r eiddo unwaith eto eu hunain.

Buddsoddwyr mewn eiddo gwag

Mae gan y Cyngor restr o ddatblygwyr a buddsoddwyr mewn eiddo gwag sydd â diddordeb mewn prynu eiddo gwag ym Mwrdeistref Sirol Caerffili er mwyn gallu eu defnyddio unwaith eto. Gall perchnogion eiddo gwag yn y Fwrdeistref sydd â diddordeb mewn gwerthu eu heiddo i ddatblygwr ddefnyddio’r rhestr hon. Mae hon yn aml yn ffordd gyflymach o werthu eich eiddo ac mae, fel arfer, yn ddidrafferth ac yn osgoi unrhyw ffioedd gan asiantaeth.

Nid yw’r datblygwyr wedi cael eu fetio ac mae’r cynnig i fod ar y rhestr yn agored i bawb. Bydd angen i’r perchennog eiddo gwag gysylltu â’r datblygwyr yn uniongyrchol a bydd unrhyw drafod neu gytundebau sy’n cael eu gwneud rhwng y ddwy ochr yn cael eu gwneud yn annibynnol ar y Cyngor. Perchennog yr eiddo gwag a fydd yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn cael pris teg am y trawsgludo. Rydyn ni’n awgrymu eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol ac yn cael prisio eich eiddo yn annibynnol wrth drafod a chytuno ar delerau’r gwerthiant.

Os hoffech chi drafod hyn ymhellach, cysylltwch â’r adran sector tai preifat i drafod eich bwriad ar gyfer yr eiddo ar 01443 811378 neu E-bostio TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk


Gwerthu drwy Arwerthiant

Mae arwerthiannau eiddo yn dod yn fwyfwy poblogaidd a gallan nhw yn aml fod yn ffordd gyflym ac effeithiol o werthu eiddo, gan gynnwys rhai sy’n cael eu hystyried eu bod yn anodd eu gwerthu ac mae’n aml yn arwain at gael pris da am eiddo sy’n anghyffredin neu’n dadfeilio. Maen nhw’n aml yn ffordd gyflymach o werthu eiddo na drwy asiant gwerthu gan fod yr eiddo, fel arfer, yn cael ei restru mewn arwerthiant cyn pen 1 mis a bydd y gwerthiant wedi’i gwblhau cyn pen 20-30 diwrnod ar ôl yr arwerthiant. Gall galw gan nifer o brynwyr yn aml godi pris yr eiddo, neu fe allech gael cynnig am yr eiddo cyn yr arwerthiant, ac os ydych chi’n derbyn hwnnw, ni fydd angen i chi fynd i arwerthiant.

Rydyn ni wedi cysylltu â chwmnïau arwerthiannau lleol i gynnig pecyn disgownt ac unigryw ar gyfer perchnogion eiddo gwag sydd eisiau gwerthu eu heiddo drwy Arwerthiant. Fe allai’r pecyn disgownt hwn gynnwys dim costau ymlaen llaw, budd dim gwerthu dim ffi a disgownt ar ffi’r gwerthwr. Nid yw hyn ond ar gael drwy atgyfeiriad gan Swyddog Eiddo Gwag Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Os hoffech chi drafod hyn ymhellach, cysylltwch â’r adran sector tai preifat i drafod eich bwriad ar gyfer yr eiddo ar 01443 811378 neu e-bostio TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk


Gwerthu drwy asiantau tai

Mae’n debygol y bydd yn haws i chi werthu eich eiddo drwy asiant tai na’i werthu eich hun os nad oes gennych chi ddim profiad blaenorol, fodd bynnag, mi fydd yn costio mwy. Bydd asiantau tai yn prisio, marchnata a gwerthu eich eiddo, yn trefnu ymweliadau, yn trafod pris, yn cysylltu â’ch twrnai ac yn delio â’r gwaith papur. Gallwch chi ddisgwyl talu rhwng 0.75% a 3.0% o’r pris gwerthu a TAW i asiant tai, felly rydyn ni’n awgrymu eich bod chi’n holi o gwmpas yn gyntaf am y cynnig gorau. I ddod o hyd i asiant tai lleol, ewch i www.naea.co.uk/find-agent

Rydyn ni wedi cysylltu ag asiantau tai lleol i ddarparu cynnig arbennig unigryw i berchnogion eiddo gwag sydd eisiau gwerthu’r eiddo drwyddyn nhw. Nid yw hyn ond ar gael drwy atgyfeiriad gan Swyddog Eiddo Gwag Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. I gael rhestr o’r cynigion arbennig hyn, cysylltwch â’r adran sector tai preifat i drafod eich bwriad ar gyfer yr eiddo ar 01443 811378 neu e-bostio TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk