Yn ôl i'r brig

Rhentu eich eiddo gwag

Nid yw’n gyfrinach bod prinder lletyau rhent addas o ansawdd da ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn rhentu eich eiddo, gallwn ni gynnig amrywiaeth eang o wybodaeth a chymorth i chi a byddwn ni’n gallu eich pwyntio yn y cyfeiriad cywir.

Mae’r tabl isod yn dangos bras incwm posibl ceidwadol y gallech chi fod wedi’i ennill dros y cyfnod pan fu eich eiddo’n wag:

Incwm posibl ar sail nifer y blynyddoedd y bu’n wag
(yn seiliedig ar y Lwfans Tai Lleol rhwng Ebrill 21 – Mawrth 22)
2 wely 3 gwely
1 flwyddyn £5,385 £5,624
2 flynedd £10,770 £11,248
blynedd £16,155 £16,872
4 blynedd £21,540 £22,497
5 mlynedd £26,925 £28,121
6 blynedd £32,310 £33,745
7 mlynedd £37,695 £39,370
8 mlynedd £43,080 £44,994
9 mlynedd £48,466 £50,618
10 mlynedd £53,851 £56,243

Cyngor i landlordiaid

Gall rhentu eich eiddo fod yn ffordd o gael incwm ychwanegol, gwella cyflwr yr eiddo a lleihau’r tebygolrwydd o fandaliaeth a throseddu y mae eiddo gwag yn gallu eu denu’n aml. Os ydych chi’n meddwl am rentu eich eiddo, gall y Cyngor gynnig cyngor i chi ar fod yn landlord, gan gynnwys:

  • Cyfrifoldebau a rhwymedigaethau
  • Y gyfraith landlordiaid a thenantiaid
  • Cytundebau tenantiaeth
  • Dod o hyd i denant
  • Cymorth â thenantiaeth
  • Y farchnad dai leol ac incwm rhent
  • Cyflenwad a galw
  • Cyfle i’r dyfodol
  • Rhentu Doeth Cymru
  • Fforymau a chylchlythyron i landlordiaid

Gwasanaeth Tai Rhent Preifat Allweddi Caerffili

Prosiect dan arweiniad ein tîm Gwasanaethau Tai yw Allweddi Caerffili ac mae’n helpu landlordiaid preifat i ddod o hyd i denantiaid tymor hir ar gyfer eu heiddo, ac mae’n atal digartrefedd hefyd.

  • Mae Allweddi Caerffili yn cydlynu’r denantiaeth drwy gysylltu â landlordiaid
  • Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim
  • Mae llwyth achosion mawr o bobl sy’n barod i symud i mewn i gartrefi
  • Mae Allweddi Caerffili yn trefnu pob ymweliad
  • Ymweliadau monitro chwarterol
  • Mae Allweddi Caerffili yn gweithredu fel y prif gyswllt ar gyfer tenantiaid a landlordiaid gan roi cymorth parhaus i’r ddau

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’w gwefan www.caerphillykeys.co.uk/cy/ neu gysylltu â thîm Allweddi Caerffili ar 01443 873564. E-bost AllweddiCaerffili@caerffili.gov.uk


Rhentu Doeth Cymru

Fe wnaeth Deddf Tai (Cymru) 2014 ei gwneud hi’n ofynnol i landlordiaid fod yn gofrestredig, ac i asiantau a landlordiaid sy’n hunan-reoli ac sy’n gosod a rheoli eiddo ddilyn hyfforddiant a chael trwydded. Rhentu Doeth Cymru sy’n goruchwylio’r gofynion hyn gyda’r nod o godi safonau yn y sector rhent preifat i warchod tenantiaid a helpu landlordiaid ac asiantau da.

Rhaid i bob landlord preifat gofrestru nhw eu hunain a’u heiddo. Os oes landlord eisiau rheoli’r eiddo ei hun, rhaid iddyn nhw hefyd fod wedi’u trwyddedu, dangos eu bod yn ‘gymwys a phriodol’ i ddal trwydded a chwblhau hyfforddiant cymeradwy yn llwyddiannus. Neu, fe all landlord benodi asiant trwyddedig i fod yn gyfrifol am eu heiddo ar eu rhan.

I gael rhagor o wybodaeth am ofynion Rhentu Doeth Cymru, i gofrestru, ymgeisio am drwydded neu gadw lle ar gwrs hyfforddiant, ewch i www.rhentudoeth.llyw.cymru neu gysylltu â 030 0013 3344.


Asiantau gosod

Manteision gosod eich eiddo drwy asiant gosod yw y caiff eich eiddo ei hysbysebu yn effeithiol, maen nhw’n adnabod y farchnad dai leol, byddan nhw’n delio â’r ymweliadau, yn dod o hyd i denantiaid, yn casglu’r rhent; byddan nhw’n gwneud gwaith cynnal a chadw arferol, yn gwneud archwiliadau a gwiriadau diogelwch yn yr eiddo, ac yn delio â’r gwaith papur perthnasol gan sicrhau, ar yr un pryd, eich bod yn cael gwybod am unrhyw newidiadau yn y ddeddfwriaeth. Mae’r nifer o wasanaethau sy’n cael eu darparu yn amrywio rhwng asiantau ac mae’r pris y byddwch chi’n ei dalu yn dibynnu ar lefel y gwasanaeth sydd angen arnoch chi ond bydd, fel arfer, rhwng 10% ac 20% o’r incwm rhent. Er enghraifft, efallai mai dim ond dod o hyd i denant ydych chi am i’r asiant ei wneud, neu efallai eich bod eisiau iddynn nhw ddelio â’r cytundeb rhentu o’r dechrau i’r diwedd. Dylech chi ddewis asiant gosod sy’n aelod o sefydliad proffesiynol, fel Cymdeithas yr Asiantau Gosod Preswyl. Mae’r gyfraith yn mynnu bod pob asiant gosod sy’n delio â’r gwaith o osod neu gadw golwg ar eiddo wedi cofrestru â Rhentu Doeth Cymru fel asiant trwyddedig. Ewch i’r wefan ganlynol ar unwaith i gael gwybodaeth bellach, y costau ac i ddod o hyd i asiant cofrestredig lleol yn eich ardal.

I gael rhagor o wybodaeth am ofynion Rhentu Doeth Cymru, i gofrestru, ymgeisio am drwydded neu gadw lle ar gwrs hyfforddiant, ewch i www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/home/ neu gysylltu â 030 0013 3344.


Tai Amlfeddiannaeth (HMO)

Os ydych chi’n berchen ar eiddo gwag ac yr hoffech chi ddefnyddio eich eiddo unwaith eto drwy feddiannaeth a rennir neu unedau sengl a bod yr eiddo yn bodloni unrhyw rai o’r meini prawf canlynol, caiff yr eiddo ei gyfrif fel HMO:

  • Tŷ neu fflat cyfan sy’n cael ei osod i 3 neu ragor o denantiaid sy’n ffurfio 2 neu ragor o aelwydydd ac sy’n rhannu cegin, ystafell ymolchi neu doiled.
  • Tŷ sydd wedi’i addasu’n gyfan gwbl yn fflatiau un ystafell neu lety o fath arall nad yw’n hunangynhwysol ac sy’n cael ei osod i 3 neu ragor o denantiaid sy’n ffurfio dwy aelwyd neu ragor ac sy’n rhannu cegin, ystafell ymolchi neu gyfleusterau toiled.
  • Tŷ sydd wedi’i addasu ac sy’n cynnwys un neu ragor o fflatiau nad ydyn nhw’n gwbl hunangynhwysol (h.y. nid oes yn y fflat gegin, ystafell ymolchi a thoiled) ac sy’n cael ei feddiannu gan 3 neu ragor o denantiaid sy’n ffurfio dwy aelwyd neu ragor.
  • Adeilad sydd wedi’i addasu’n gyfan gwbl yn fflatiau hunangynhwysol os nad oedd y gwaith addasu yn bodloni’r safonau yn Rheoliadau Adeiladu 1991 a bod mwy nag un rhan o dair o’r fflatiau yn cael eu gosod ar denantiaethau tymor byr.

Mae gofyn i HMO mwy, penodol hefyd gael eu trwyddedu gan y Cyngor. Mae trwyddedu yn cael ei gyfyngu i HMO sydd ar 3 llawr neu ragor ac sy’n lletya 5 neu ragor o denantiaid, sy’n cynnwys 2 aelwyd neu ragor. (Mae hyn yn ychwanegol at ofynion trwyddedu Rhentu Doeth Cymru fel a welir uchod).

Bydd unrhyw berchennog sydd eisiau addasu ei eiddo gwag yn HMO angen cysylltu â’r adran Gynllunio, Rheoli Adeiladu a’r adran Tai Sector Preifat i gael cyngor a gwybodaeth benodol cyn dechrau ar unrhyw waith.